HWB: Cefnogi Cymuned

Cartref > HWB: Cefnogi Cymuned

logo Hwb

Mae Cymunedau Bach yn Gymunedau Cryf!

Cefndir yr HWB

Wedi i’r Dref Werdd dderbyn arian grant gan y CGCC a’r Moondance Foundation i ymateb i argyfwng y COVID-19, sefydlwyd HWB : Cefnogi Cymuned dros gyfnod yr Hâf, 2020. Bwriad y prosiect oedd cefnogi cymunedau Bro Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth a’r cylch drwy ymateb i effeithiau’r pandemig COVID-19 ar drigolion ein cymunedau. Bu i sawl prosiect gael ei sefydlu i daclo'r effeithiau hynny. Ariennir y prosiect bellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan Ionawr 2024.

Wrth drafod yr heriau oedd trigolion wedi’i wynebu yn y cyfnod hwn, yr effeithiau amlycaf oedd:

  • Unigrwydd
  • Teimlo’n ynysig
  • Diffyg treulio amser yn yr awyr agored
  • Dim cyswllt âg eraill / cyswllt âg eraill wedi ei gyfyngu

Felly, o ganlyniad sefydlwyd sawl prosiect i ddod i’r afael â hyn...

Dod yn ôl at dy Goed

Mae Dod yn ôl at dy Goed yn brosiect arloesol ac unigryw i gefnogi unigolion i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, mewn natur, er mwyn hybu iechyd meddwl.

Mae rhaglen o weithgareddau amrywiol yn cael ei ryddhau yn fisol ac mae croeso i unrhyw un ymuno.

Engraifft o’r gweithgareddau:

*Paned yn y Coed *Teithiau natur *Celf a chrefft naturiol *Meddylgarwch *Coginio gwyllt *Barddoni yn y Coed *Ymweliadau fferm *Pilates *Tai Chi *Heicio

Mae Dod yn ôl at dy Goed yn grymuso pobl i ail-gysylltu gyda'i cymunedau a'i amgylched, gyda phwyslais ar beth sy'n bwysig iddyn nhw, ac yn eu galluogi i adeiladu ar eu cryfderau a'u dyheadau.

Mewn amser ansicr, a gyda chymaint ohono wedi ei dreulio o fewn pedair wal, credwn y gall bawb elwa o gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae rhywbeth ar gael i bawb!

Gallwn ddarparu dillad addas a cludiant os oes angen.

dod yn ol at dy goed

I bwy mae Dod yn ôl at dy Goed?

Yn syml – i BAWB!

Mae bawb angen dôs bach o natur!   Bydd plant o dan 16 angen oedolion gyda nhw. Bydd angen holi os fydd y lleoliad/weithgaredd yn addas ar gyfer cŵn.  Nid oes cyfyngiadau eraill ac fe wnawn ein gorau i hwylyso popeth ar gyfer unrhyw un.

Ym mhle fydd hyn yn digwydd?

Mae’r cynllun yn cael ei redeg yn yr ardaloedd canlynol –

  • Bro Ffestiniog (codau post LL41)  – Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Trawsfynydd, Gellilydan, Maentwrog.
  • Penrhyndeudraeth a’r Cylch (codau post LL48)  – Penrhyndeudraeth, Minffordd, Llanfrothen, Croesor a Rhyd.

Ardaloedd o harddwch naturiol gyda digonedd o lefydd heddychlon i’w mwynhau!

Mae lleoliadau ein gweithgareddau yn amrywio o fewn yr ardaloedd yma. Mae cludiant ar gael os angen.

Sut mae’n gweithio?

Gallwch gyferio eich hunain neu gall unrhyw fudiad arall wneud cyfeiriad ar eich rhan. Mae’r ffurflen gofrestru arlein isod, neu gallwch gysylltu dros y ffôn neu ebost.  Yna, bydd aelod o staff yn cysylltu gyda chi er mwyn eich cefnogi ar eich siwrne i Ddod yn ôl at eich Coed!

Cofrestrwch i ymuno â gweithgareddau Dod yn ôl at dy Goed:

Ffurflen Cofrestru Dod yn ol at dy Goed

Cynefin a Chymuned i Blant

Cyfres o sesiynau yw Cynefin a Chymuned i Blant gyda’r nod o ddysgu am ein cynefin a’n cymuned mewn natur, a gyda hynny, creu haneswyr a gwarchodwyr amgylcheddol o fri i’r ardal leol ar gyfer y dyfodol. 

 Yn wreiddiol wedi’i selio ar brosiect tebyg gan Antur Stiniog i oedolion, bu i’r Dref Werdd addasu'r cwrs i blant yn 2015.

Ail gychwynwyd y prosiect yn Hâf 2021 wedi i ni dderbyn grant gan Mantell Gwynedd.  

Mae 15 o blant rhwng 8 ac 11 oed yn elwa o gyfleon unigryw yn yr awyr agored dros gyfnod o flwyddyn ac ar ddiwedd hynny yn derbyn gwobrau John Muir.

Cynllun Digidol

Fel rhan o’n cynllun i helpu’r rhai sydd heb fynediad i’r wê fynd ar-lein, mae ganddom ddyfeisiau ar gael i’w benthyca i bobl ein cymunedau. Gallwn helpu gyda chysylltedd am gyfnod. Ac mae ganddom wirfoddolwyr digidol gwerth chweil i helpu.

Yn ogystal ag unigolion, rydym wedi benthyca dyfeisiau i gyfranogwyr Dementia GO er mwyn eu galluogi i fwynhau dosbarthiadau ymarfer corff, boreau coffi a sesiynau atgofion chwaraeon. 

Mae cymorth wedi ei roi i rai allu wneud galwadau fideo dros y Nadolig clo, tra mae rhai wedi bod yn dysgu i siopa ar-lein, ac eraill wedi eu benthyg er mwyn gwneud cyrsiau a chael mynediad i addysg.

Hwb digidol

Cysylltwch â’r HWB:

Penrhyndeudraeth a’r Cylch

Lauren Hill

07534 551948

lauren@drefwerdd.cymru

Bro Ffestiniog

Non Roberts

07385 783340

non@drefwerdd.cymru